|
1,2,3,4; 1+2,3+4,5+6,7+8.
O tyr'd i ben, ddedwyddaf ddydd,
A gâd i'm hysbryd fyn'd yn rhydd;
Rho brawf,
rho brawf ar frys i mi
O ddwyfol haeddiant Calfari.
Fel gallwyf rodio'n ddinacâd
Dan awel hyfryd
rin y gwaed;
A threulio'm hamser, ddydd a nos,
Mewn myfyr am dy angeu loes.
Ac na bo gras o fewn y nef
Na chaffwyf ran o hono ef;
A gwna na byddo genyf flas,
Ond yn dy gariad a dy ras.
Fy lloches, a fy noddfa glyd,
Fo edrych ar dy wyneb pryd;
A'm hamser elo heibio'n llawn
Wrth ganu i'th enw,
foreu a nawn.
Fe enaid 'hed tua'r nef o hyd,
Ac aed dy galon yno i gyd;
A doed cystuddiau i mewn yn lli,
Minnau a gwynaf wrthyt ti:
'Does unrhyw ofid, unrhyw boen,
Na wasgodd ar yr addfwyn Oen;
Ac yne ofid ef a'i gri,
Mae holl esmwythder fy enaid i.
Mi wn mai meiau duon iawn,
Yw'r achoso'm cystuddiau'n llawn;
Symud fy mai fe gwymp y ffon:
O'th sanctaidd law y funud hon:
'Does yn dy galon ond lesâad,
Maddeuant, hêdd, a gwir iachâd;
Cymmer dy ffordd, can's credu 'rwyf,
Mai dyna'r modd
iachêir fy nghlwy.
- - - - -
1,2,4; 1+2,3+4.
O! tyr'd i ben, ddedwyddaf ddydd,
Na gâd i'm hysbryd fyn'd yn rhydd;
Rho brawf,
rho brawf, ar frys i mi
O haeddiant
aberth Calfari.
Boed i mi rodio'n ddinacâd
Dan awel hyfryd
rin dy waed
A threulio'm hamser, ddydd a nos,
Mewn myfyr am dy angeu loes.
O! na foed gras
o fewn y nef
Na chaffwyf ran o hono ef;
A gwna na byddo genyf flas
Ond yn dy gariad, a dy ras.
Fy unig gysur yn y byd
Yw edrych ar
dy wyneb pryd;
A'm horiau elo heibio'n llawn
Wrth ganu am dy ddwyfol ddawn.
William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]:
Tonau [MHD 8888D]: gwelir: Fy enaid hed tua'r nef o hyd Fy enaid tua'r nefoedd 'hed I ble'r âi 'mofyn heddwch drud? Mae'n perthyn i mi bob rhyw bla |
O come to pass, thou last day,
And let my spirit go free;
Give an experience,
give an experience quickly to me
Of the divine merit of Calvary.
Thus I may walk innocently
Under the delightful breeze
of the virtue of thy blood;
And spend my time, day and night,
In meditation on thy throes of death.
And be there no grace within heaven
In which I have no part;
And make me have no taste
But of thy love and thy grace.
My secret place, and my secure refuge,
Be looking upon thy countenance;
And may my time go past fully
While singing to thy name,
morning and evening.
My soul, fly toward heaven always,
And may thy heart go there altogether;
And let afflictions come in as a flood,
I shall complain unto thee:
There is no grief, no pain,
That did not press upon the gentle Lamb;
And in his grief and his cry,
Is all the relief of my soul.
I know that very black faults
Are the cause of my afflictions fully;
Move my fault the rod falls:
From thy sacred hand this minute:
In thy heart is nothing but benefit,
Forgiveness, peace, and true healing;
Take thy way, since believing I am,
That that is the way
my wound shall be healed.
- - - - -
O come to pass, thou last day,
Nor let my spirit go free;
Give an experience,
give an experience, quickly to me
Of the merit
of the sacrifice of Calvary.
Thus may I walk innocently
Under the delightful breeze
of the virtue of thy blood
And spend my time, day and night,
In meditation about thy throes of death.
O that there would be no grace
within heaven
In which I have no part;
And make it that I have no taste
But of thy love, and thy grace.
My only comfort in the world
Is to look upon
the countenance of thy face;
And may my days go past fully
While singing about thy divine gift.
tr. 2016,21 Richard B Gillion
|
|